Rhagair gan Gadeirydd y Bwrdd – Tony Collins
Croeso i’n Hadroddiad Effaith Blynyddol. Bu hon yn flwyddyn arall o ddatblygu ar gyfer ARA. Am y tro cyntaf yn ein hanes mae ein gwasanaethau wedi helpu dros 5000 o bobl.
Ymhlith ein llwyddiannau bu cynnig cartref diogel i bob carcharor a ryddhawyd o fewn rhaglen ARRO Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae ARA hefyd wedi parhau i ehangu a datblygu ein gwasanaethau “Triniaeth Gamblo”. Mae ARA eisoes yn darparu’r gwasanaethau hyn yng Nghymru ac wedi cynnal digwyddiad “Sgwrs Am Gamblo yng Nghymru” yn ystod y flwyddyn diwethaf. Daeth y digwyddiad yma â chymunedau yng Nghymru ynghyd i drafod sut y dylid datblygu ac ehangu gwasanaeth triniaeth (yng nghyd destun gamblo problemus).
Mae ARA yn parhau i gael effaith ar fywydau ei gleientiaid yn ein holl feysydd o adfer gamblo problemus. Uchelgais ARA yw cynnyddu ei ystod o wasanaethau a’u tywys i gynulleidfa ehangach. Mae tîm gweithredol ARA dan arweiniad Graham England (Prif Swyddog Gweithredol), a gyda chefnogaeth Andrew Ridley (CFO) a Robbie Thornhill (COO), wrthi yn adeiladu’r platfform cryf a sefydlog hynnu ar gyfer yr elusen, sy’n ofynnol ermwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau a bwrw ymlaen gyda datblyfu ein gwasanaethau yn y dyfodol.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr galluog ac amrywiol iawn hefyd yn cefnogi’r elusen a’r ystod o wasanaethau rydym yn ei gynnig, gyda’r sgiliau a’u profiadu angenrheidiol sydd eu hangen ermwyn gweithredu elusen llwyddiannus. Ein nod yw i sicrhau gwahaniaeth positif i fywydau pobl rydym yn eu gwasanaethu.
Ond yn ddiweddar iawn yr wyf wedi ymuno â Bwrdd ARA, ac rwyf wedi fy nghyffroi ac yn llawn brwdfrydedd gan yr effaith yr ydym yn ei chael o sgil ein gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau. Fe ddaw heriau newydd ac wrth i ni ysgrifennu’r adroddiad hwn mae’r byd yn delio ag argyfwng COVID19. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i yswirio bod ein cleientiaid yn cael eu cefnogi trwy’r sefyllfa ddigynsail hon.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen yr adroddiad effaith blynyddol. I dderbyn diweddariadau a straeon amser real am ein gwaith, beth am ein dilyn ar Twitter (@ARA_Bristol) neu/a’r Facebook.
Tony Collins.
Cadeirydd, Bwrdd Ymddiriedolwyr ARA