DEFNYDDIWCH HYN OS GALLWN EICH HELPU NEU HELPU RHYWUN RYDYCH YN EI ADNABOD
PECYN CYMORTH GAMBLIO
Os na fyddwch chi’n dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi, cysylltwch â ni.
Beth yw gamblo problemus?
Gall gwneud yr ambell “bet” neu chwarae’r loteri fod yn hwyl, ond pan fydd gamblo’n cyrraedd lefelau peryglus gall ddatblygu yn broblem.
- I anghofio am gyfrifoldebau
- Pan fyddant yn teimlo’n isel neu’n drist
- Wedi diflasu, yn enwedig os nad ydynt gweithio
- Pan fyddant yn yfed neu’n defnyddio cyffuriau
- Pan fyddant yn gwylltio gydag eraill neu eu hunain
- Os ydyn nhw’n dechrau gamblo’n ifanc iawn
- Yn teimlo eu bod yn methu a rheoli eu gamblo
- Bod a un neu ddau riant sy’n cael problemau gamblo
- I anghofio am gyfrifoldebau
Ffrindiau a theulu
Mae bod yn bartner i rywun sydd â phroblem gamblo – neu fod yn rhiant neu’n blentyn – yn anodd a gall beri gofid.
Mae perthnasau yn aml yn ceisio cuddio maint y broblem. Weithiau maent yn teimlo mai eu hunig opsiynau yw benthyca, dweud celwydd neu dwyn i dalu dyledion.
Mae angen cefnogaeth ar ffrindiau a theulu – mae help ar gael ar eu cyfer hefyd.
Oes angen help arnoch chi?
- Oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod …
- sy’n betio mwy nag y gallant wirioneddol fforddio ei golli?
- wedi cael eu beirniadu am betio neu wedi cael gwybod bod ganddyn nhw broblem gamblo, os ydynt yn credo hyn neu beidio?
yn teimlo’n euog am y ffordd maen nhw’n gamblo neu yr hyn sy’n digwydd pan maen nhw’n gamblo?
Os yw’r ateb yw “ie” i unrhyw un o’r cwestiynau hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae help ar gael.
Y 10 awgrym gorau i gymryd rheolaeth
- Talwch blaenoriaethau yn gyntaf, e.e. morgais, rhent, treth gyngor, bwyd.
- Gadewch gardiau credyd ac arian parod gartref pan ewch allan i gamblo.
- Nodwch sawl gwaith yr wythnos y byddwch chi’n gamblo. Byddwch yn benodol ac enwch y dyddiau.
- Cymerwch seibiant. Rhaid i gwmnïau gamblo gynnig seibiannau byr o 24 awr i 6 wythnos, neu opsiynau hirach am o leiaf 6 mis
- Os ydych chi’n defnyddio peiriannau hapchwarae neu gyfrif betio gan gynnwys casinos ar-lein, gofynnwch am derfyn amser a gwariant.
- Meddyliwch am gamblo fel adloniant yn hytrach na ffordd o wneud arian. Byddwch yn barod i golli bob amser – os byddwch chi’n ennill, gwyddoch ei fod yn siawns.
- Peidiwch byth â gwario’ch cynilion na’ch buddsoddiadau ar gamblo.
- Gofynnwch i ffrindiau a theulu beidio â rhoi benthyg arian ichi os gofynnwch iddynt.
- Treuliwch fwy o amser gyda phobl nad ydyn nhw’n gamblo.
- Siaradwch ag eraill am eich pryderon neu bryderon yn hytrach na cadw eich pryderon i chi’ch hunain.