Arbenigwyr yn ôl eu profiadau
Ers mis Ionawr 2019 mae ARA wedi hwyluso grŵp ‘Arbenigwyr yn ôl eu profiadau’, a sefydlwyd i annog a hyrwyddo llais y rhai sydd â phrofiad byw o gamblo problemus, neu’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan broblem gamblo rhywun arall.
Mae hyn bellach yn cynnwys grŵp sefydledig o unigolion brwdfrydig, sy’n cwrdd bob chwarter i drafod sut y gallwn leihau niwed gamblo ac adolygu, gwerthuso a helpu i lunio’r gwasanaethau triniaeth gamblo yn Ne-orllewin Lloegr ac yng Nghymru.
Os hoffech wybod mwy, neu os hoffech ymuno â’n grŵp “Arbenigwyr yn ôl eu profiadau”, e-bostiwch aragamblingservice@recovery4all.co.uk a byddem yn falch iawn o ddarparu manylion pellach i chi.