Croeso i Ara Recovery4all, sefydliad sydd wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd er 2006. Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael arwain sefydliad mor flaengar.
Gyda thîm gwych o wirfoddolwyr, staff, a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac ers dros 30 mlynedd, rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i bobl mwyaf fregus yn ein cymunedau. Mae ein holl ffocws ar helpu pobl i wneud eu bywydau yn well, eu teuluoedd / ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Fe wnaeth un sylw arbennig a gawsom ynghkyn a’n gwasanaeth, grynhoi hyn i mi … “Fe wnaeth Ara fy helpu i fynd o fod yn ddiymadferth i fod o gymorth”. Gallwn ddweud yn onest fod adferiad yn rhan o’n “DNA”.
Credwn yn angerddol y gall pobl newid ac adfer, sy’n golygu peidio â chydnabod na derbyn bod hyn “cystal ag y bydden”. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i wella eu gweithrediad, eu lles a’u hansawdd bywyd, o beth bynnag yw’r man cychwyn. Mae gennym obaith ac uchelgais i bawb sy’n defnyddio ein myrdd o wasanaethau Tai â Chefnogaeth, Gamblo neu Iechyd Meddwl.
Rydyn ni hefyd yn gwybod mai’r diwrnod rydyn ni’n credu ein bod ni wedi ei “gracio”, yw’r diwrnod rydyn ni wedi ei gael yn hollol anghywir, a dyna pam rydyn ni’n gwrando ar yr holl bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, s’yn chwilio am welliannau cyson a pharhaus.
Yn Ara rydyn ni’n cydnabod na allwn ni cyflawni yr uchelgeision yma ar ein pennau ein hunain, a dyna pam rydyn ni’n gweithio’n galed i fod yn ddatryswyr problemau i’n cyllidwyr a’n comisiynwyr, yn meithrin perthnasoedd dibynadwy a gonest gyda’n rhanddeiliaid a’n partneriaid, ac rydyn ni’n uchelgeisiol dros y bobl rydyn ni yn ei wasanaethu.
Os ydych chi’n chwilio am gymorth, neu’n edrych i helpu, peidiwch ag oedi cyn cysylltu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dymuniadau gorau,
Chief Executive.