Loading...

RYDYM GYDA YSTOD O WASANAETHAU I HELPU POBL SYDD YN DDI-GARTREF NEU YN DEBYFOL O FOD YN DDI-GARTREF

Tai

Cofnodwyd y cyfrif swyddogol diwethaf o bobl yn cysgu allan ym Mryste, fel 98 yn Hydref 2019. Nid yw hyn yn cynnwys pobl yn syrffio soffa, yn aros mewn cerbydau neu adeiladau anniogel. Mae Ara yn awyddus i chwarae ei rhan wrth leihau digartrefedd ledled dinas Bryste.

LLWYBRAU AMRYWIOL AR GYFER DARPARU LLETY DIOGEL I GEFNOGI EICH SIWRNE TUAG AT ANNIBYNIAETH

Tai ar gyfer Camddefnyddwyr Dwys

Llwybr amrywiol sy’n darparu llety diogel i gefnogi’ch adferiad i annibyniaeth.

Mae Ara, ynghyd â’i phartneriaid “The Junction Project” ynghyd a rhaglen “The Salvation Army Bridge”, yn darparu ystod o lety i bobl sy’n gweithio ar eu hadferiad o faterion camddefnyddio dwys:

  • Tai paratoi ymlaen llaw – tai diogel i bobl sydd wedi’u cymell i fynd i’r afael â’u materion camddefnyddio dwys
  • Tai paratoi – ar gyfer pobl sy’n sefydlog ar bresgripsiynau amnewid
  • Mewn Llety Triniaeth – llety i bobl sydd wedi ymatal yn ddiweddar rhag meddyginiaeth ar bresgripsiwn , alcohol a chyffuriau.

Gyda chefnogaeth:

   

Darganfyddwch fwy am Dai Camddefnyddio Dwys Ara – lawr-lwythwch ein taflen

ARA YN HELPU MAGU BYWYD ANNIBYNNOL

Llety Annibynnol Hirdymor (LIDs)

Mae gan Ara sawl lleoliadau a rennir i bobl sy’n barod i symud allan o lety â chymorth a dechrau byw’n annibynnol. Mae’r rhenti wedi’u gosod ar gyfraddau fforddiadwy fel y gall pobl fynd yn ôl i gyflogaeth â thâl pan fyddant yn barod. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, cliciwch y botwm isod.

Darganfyddwch fwy am Dai Camddefnyddio Dwys Ara – lawr-lwythwch ein taflen

HELPU I LLEIHAU DI-GARTREFEDD AC AIL DROSEDDU

Cyfleoedd Ail Gychwyn ac Ail Sefydlu Ara (ARRO)

Mae Ara wedi ei gomisiynu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i ddarparu peilot 3 blynedd o Awst 2019 ac i weithio allan o garchar Bryste. Nod y gwasanaeth hwn yw lleihau aildroseddu ac atal digartrefedd trwy ddod o hyd i lety a darparu cefnogaeth i bobl sy’n cael eu rhyddhau o garchar Bryste. Gallwn weithio gyda phobl sy’n dychwelyd i Fryste, Gwlad yr Haf, Wiltshire, Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, Gogledd Gwlad yr Haf, De Swydd Gaerloyw neu Swydd Gaerloyw.

Am fwy o wybodaeth am ARRO

ATAL CARCHARORION O FOD YN DDI-GARTREF AR OL EU RHYDDHAU

Rhyddhau o’r Carchar

Mae Ara yn gweithredu gwasanaeth rhyddhau carchar yng ngharchar Bryste gan sicrhau llety i garcharorion sy’n helpu i atal eu dychwelyd I fod yn ddi-gartref ar ôl cael eu rhyddhau. Rydym hefyd yn gallu gweithio gyda charcharorion sy’n cael eu rhyddhau o garchardai eraill sydd â chysylltiad lleol â Bryste. Ariennir hyn gan rhaglen llywodraethol, “Rough Sleepers”, trwy Gyngor Dinas Bryste.

Chwilio am help? Anfonwch eich neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl

DOD O HYD I FWY O WYBODAETH A SUT I WNEUD CAIS AM DAI GYDA ARA

Galw Heibio Tai Ara

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein tai neu eisiau gwneud cais am le?

Dewch i un o’n sesiynau galw heibio:

Ara, Kings Court, 10 King Street, Bryste BS1 4EF
bob dydd Iau rhwng 2yp -3.30yp

BDP, 11 Sgwâr Brunswick, St Paul’s, Bryste BS2
bob dydd Mawrth (1af a’r 3ydd Mawrth y mis rhwng 10yb-11.30yb)

CYFLEOEDD AR GYFER DARPAR LANDLORDIAID

Porth Landlordiaid Ara

Mae gan Ara cyfloeoedd gwych ar gyfer landlordiaid. Mae’r porth yn faes pwrpasol lle gallwch weld einghreifftiau o astudiaethau, dod o hyd i gytundebau enghreifftiol, darganfod a rhannu cysylltiadau defnyddiol, a gweld rhai o’n ffigurau gwaith.

Llety Hygyrch

Mae gan ARA gwahanol fathau o lety â chymorth i bobl â phroblemau symudedd. Mae rhai wedi’u haddasu’n ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Am fwy o wybodaeth, siaradwch ag aelod o staff yn un o’n sesiynau galw heibio.